Share
Preview
Ysbrydoli! Gwobrau Addysg Oedolion
Un mis ar ôl i gyflwyno eich enwebiadau
Ysbrydoli! Gwobrau ar gyfer dysgwyr, teuluoedd, y gweithle, aphrosiectau cymunedol

Dyddiad cau newydd – 22 Mawrth 2021


Ydych chi’n adnabod dysgwr neu deulu sydd yn ysbrydoli? Efallai eich bod yn y gweithle ac yn datblygu cyfleoedd i hyfforddi a gwneud cynnydd. Ydych chi’n cael effaith mewn cymunedau lleol ac yn creu mynediad at ddysgu a sgiliau?

Rydym eisiau dathlu a rhannu eich straeon.
Inspire! Adult Learning Awards
One month left to submit your entries

Inspire! Awards for learners, families, workplace, and community projects

New closing date – 22 March 2021


Do you know an inspirational learner or family? You may be in the workplace and developing opportunities to train and progress. Are you making an impact within local communities and opening up access to learning and skills?

We want to celebrate and share your stories.

 
Categorïau
Rydym yn chwilio am bobl, prosiectau a sefydliadau y mae eu cyflawniadau dysgu yn dangos angerdd, ymrwymiad ac ysgogiad eithriadol i newid eu stori ac ysbrydoli pobl eraill.


Gwobrau Unigol a Theuluol
I Mewn i Waith
·  Oedolyn Ifanc
·  Newid Bywyd a Chynnydd
·  Iechyd a Llesiant
·  Heneiddio’n Dda
·  Dechrau Arni – dechrau dysgu Cymraeg
·  Gorffennol Gwahanol: Dyfodol a Rennir
·  Dysgu fel Teulu
·  Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd (NEWYDD)

Gwobrau Prosiect a Sefydliad

·         Prosiect Effaith Cymunedol
·         Sgiliau yn y Gwaith

Categories
We are looking for people, projects and organisations whose learning achievements demonstrate outstanding passion, commitment and drive to change their stories and inspire others in the following categories:

Individual and Family awards
· Into Work
· Young Adult
· Life Change & Progression
· Health & Wellbeing
· Ageing Well
· Starting Out – Welsh beginner
· Different Past: Shared Futures
· Family Learning
· Essential Skills for Life (NEW)

Project and Organisation awards
. Community Impact Project
. Skills at Work
 
Cyflwyno eich enwebiad
Cyn i chi ddechrau eich enwebiad, darllenwch trwy’r ddogfen ganllaw a’r categorïau a sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf yn llawn.

Taflen Ganllaw a’r Categorïau
Awgrymiadau sut i ysgrifennu enwebiad llwyddiannus
Ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli!

Cyflwyno eich enwebiad ar ebost:
Ebostiwch eich ffurflen word wedi ei chwblhau i inspire@learningandwork.org.uk

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau:
22 Mawrth 2021
Rydym yn argymell eich bod yn rhoi digon o amser i chi eich hun ar gyfer cwblhau a chyflwyno eich enwebiad.

Submitting your nomination
Before you start your nomination, read through or guidance and categories document and ensure that you fully meet the criteria. Download the documents below:

Guidance and Categories sheet
Tips on how write a successful nomination
Inspire! Awards nomination form


Submit your nomination by email:
Email your completed word document form to inspire@learningandwork.org.uk

The closing date for entries:
22 March 2021

We recommend that you leave yourself enough time to complete and submit your nomination.

 
Hyrwyddo’r gwobrau
Promoting the awards
Mae pawb ohonom angen straeon newyddion da, ac er yr heriau, gofynnwn i chi feddwl am bopeth y gallwch ei wneud am wneud enwebiadau rhannu straeon am eich dysgwyr gwych.

Lawrlwythwch gopi o’n taflen Gwobrau Ysbrydoli! a rhannwch yr enwebiadau gyda’ch rhwydweithiau i annog pobl eraill i gydnabod ac amlygu straeon pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru.

Lledaenwch y neges

Defnyddiwch hashnod y gwobrau: #YsbrydoliCymru21 a soniwch amdanom ar yr enw trydar @LearnWorkCymru Rydym hefyd ar y llwyfannau cymdeithasol canlynol: Facebook ac Instagram.
We are all in need of good news stories, and despite the challenges please do all you can to think about making nominations and sharing the stories of your amazing learners.

Download a copy of our Inspire! Awards flyer and please share the nominations with your networks to encourage others to recognise and highlight the inspirational stories of people, projects and organisations in Wales.

Spread the message

Use the awards hashtag: #InspireCymru21 and mention us on the handle @LearnWorkCymru
We are also on the following social platforms:
Facebook and Instagram.
 
Gadewch i Emma eich ysbrydoli
Be inspired by Emma
Yn gynharach eleni, derbyniodd Emma Williams wobr Dysgwr y Flwyddyn i Oedolion a’r wobr Newid Bywyd a Chynnydd.

Cwblhaodd Emma ei chwrs gradd mewn Gwyddor Fforensig a TAR, ac mae wrthi’n cwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg.

Profodd Emma broblemau gyda'i hiechyd meddwl a'i dibyniaeth a chafodd ei hun yn ddigartref yn ei harddegau. Wyth mlynedd yn ddiweddarach cymerodd amryw gyrsiau cyflogadwyedd i'w helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Gwnaeth gais am swydd fel gweithiwr cymorth adfer a threuliodd y ddwy flynedd nesaf fel gweithiwr achos. Dechreuodd radd mewn Gwyddoniaeth Fforensig, TAR ac mae'n cwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndwr. Ar ôl cymhwyso fel athrawes, bu’n dysgu ar y radd Gwyddoniaeth Fforensig israddedig ac mae bellach yn gyfathrebwr gwyddoniaeth ar gyfer Techniquest yng Ngogledd Cymru, gan weithio fel model rôl i fenywod mewn pynciau STEM.

Dywedodd Emma:

Dywedwyd wrthyf na fyddwn yn byw’n hŷn na 30 pe byddwn yn parhau i fyw fy mywyd fel yr oeddwn. Ond rwy’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi bod trwy bethau gwaeth. Os gallaf ysbrydoli o leiaf un person neu ddangos i rywun sydd yn mynd trwy gyfnod anodd y gallwch newid eich bywyd trwy addysg, yna bydd y
cyfan wedi bod yn werth chweil.


Earlier this year, Emma Williams was awarded with the Adult Learner of the Year award and the Life Change and Progression award.  

Emma completed her undergraduate degree in Forensic Science and a PGCE, and is in the process of completing an MRes in Forensic Anthropology and Bioarchaeology.

Emma experienced issues with her mental health and addiction and found herself homeless in her teens. Eight years later she took various employability courses to help her get back on track. She applied for a job as a recovery support worker and spent the next two years as a case worker. She embarked on a degree in Forensic Science, a PGCE and is completing an MRes in Forensic Anthropology and Bioarchaeology at Wrexham Glyndwr University. After qualifying as a teacher, she taught on the undergraduate Forensic Science degree and is now a science communicator for Techniquest in North Wales, working as a role model for females in STEM subjects.


Emma said:

I was told I wouldn’t live past 30 if I continued to live my life like I did. Yet I know so many people who have been through worse. If I can inspire at least one person or show someone who is struggling, that you can change your life through education, then it’s all worth it.




 
Cyhoeddiad Dyddiad:
Wythnos Addysg Oedolion 2021
Mewn ymateb i’r ansicrwydd parhaus am y pandemig coronafeirws a’r adferiad, rydym wedi penderfynu cynllunio cynnal yr Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi 2021. Mae hyn yn rhoi’r posibilrwydd o weithio gyda phartneriaid i gyflwyno dull cyfunol a all ganiatáu peth gwaith allestyn gyda ffocws parhaus ar hyrwyddo dysgu gydol oes.

Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion ar 20-26 Medi a chaiff ei hyrwyddo ar draws y mis.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am yr ymgyrch, edrychwch ar uchafbwyntiau ein hymgyrch o'r llynedd.

Mae mwy o angen dysgu gydol oes nag erioed o’r blaen wrth i ni sicrhau adferiad o’r pandemig a byddwn angen i fwy o bobl ar draws Cymru gael eu hysbrydoli i gymryd rhan yn eu cymunedau, datblygu sgiliau ar gyfer ffyrdd newydd o weithio a diogelu eu hiechyd a’u llesiant.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion anfonwch e-bost at

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am broses enwebiadau Ysbrydoli!, cysylltwch â inspire@learningandwork.org.uk


Mae Gwobrau Ysbrydoli! ac Wythnos Addysg Oedolion yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill.
Date announcement:
Adult Learners’ Week September 2021
In response to the ongoing uncertainty around the coronavirus pandemic and our recovery, we have made the decision to plan for Adult Learners’ Week to take place in September 2021. This provides a possibility of working with partners to deliver a blended approach which may allow for some community based outreach with a continued focus on promoting online learning.

Adult Learners’ Week will be 20 – 26 September with promotion across the month.

If you want to know more about the campaign, take a look at our campaign highlights from last year.



Lifelong
learning is needed more than ever as we recover and we will need more people across Wales to be inspired to engage in their communities, develop skills for new ways of working and protect their health and wellbeing.

If you would like more information about Adult Learners’ Week please email alwevents@learningandwork.org.uk


If you have any queries about the Inspire! nominations process, please contact inspire@learningandwork.org.uk

The Inspire! Awards and Adult Learners’ Week are co-ordinated by Learning and Work Institute in partnership with Welsh Government and other supporters.
 
 
Cysylltu L&W Caerlŷr (+44) 0116 204 4200 | Llundain (+44) 020 7582 7221 | Caerdydd (+44) 0292 037 0900
Contact L&W Leicester (+44) 0116 204 4200 | London (+44) 020 7582 7221 | Cardiff (+44) 0292 037 0900

E: inspire@learningandwork.org.uk
 
 
Sefydliad Dysgu a Gwaith
Learning and Work Institute Wales

Cwmni cyfyngedig trwy warant Rhif cofrestu 2063322 Rhif cofrestru elusen 1002775
A company limited by guarantee registered no. 2603322 and registered charity no. 1002775
Cyfeiriad cofrestredig: 4th Floor, Arnhem House, 31 Waterloo Way, Caerlŷr, LE1 6LP
Registered address: 4th Floor, Arnhem House, 31 Waterloo Way, Leicester, LE1 6LP

Email Marketing by ActiveCampaign